y lleoliad
Modern ac yn llawn cyfleusterau, mae Pafiliwn enwog Llangollen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored. Gellir archebu’r rhain yn unigol neu gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion penodol:
Arena a thiroedd
- Llwyfan ac arena dan orchudd ar gyfer ffeiriau masnach, cyngherddau a digwyddiadau
- Llwyfan a chyfleusterau technegol o safon uchel
- Cae 4000 metr sgwâr, yn darparu man agored hyblyg
- Mae’n ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiad awyr agored, fel gwyliau, cyngherddau, sioeau masnach, ffeiriau crefftau a ralïau clwb
Neuadd
- Neuadd dan do ar gael gyda lle i hyd at 400 (mewn arddull theatr) neu 250 (mewn arddull cabaret)
- Cyfleusterau llwyfan a thechnegol o safon uchel, gan gynnwys taflunwyr a Wi-Fi
- Perffaith ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau gwobrau, lansio cynnyrch, sioeau masnach, ffeiriau crefft, cyngherddau, cyfarfodydd mawr a chiniawau
Ystafelloedd cyfarfod
- Amrywiaeth o ystafelloedd ar gael gydag offer da sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd o 4 i 80 o bobl
- Mae taflunwyr, sgriniau, cyfleusterau tywyllu a WiFi am ddim ar gael ym mhob un
Derbynfa ac ardal caffi
- Gellir addurno’r man derbynfa mawr i’ch gofynion
- Cyfleusterau arlwyo a chaffi gydag offer da
- Bar trwyddedig llawn
Parcio
- Maes parcio ar y safle ar gyfer hyd at 160 car
- Mannau parcio ychwanegol ar gael trwy drefniant