yr awyr agored
Mae Llangollen yn un o brif ganolfannau Prydain ar gyfer canŵio, beicio mynydd, cerdded ar fryniau, cyfeiriannu, beicio ffordd, dringo creigiau a gweithgareddau eraill sy’n cyflymu’r pwls.
Os ydych yn gosod her i dimau neu ond yn cael hwyl, gall arbenigwyr gweithgareddau Llangollen drefnu rhaglen yn arbennig i chi. Mae darparwyr yn cynnwys:
ProAdventure
Darparwr sydd â phrofiad helaeth o weithgareddau antur yn y DU, yn cynnig ystod eang o weithgareddau a chyrsiau wedi’u haddasu ar gyfer unigolion, grwpiau a chwmnïau. Mae hyfforddwyr cymwys gweithgareddau awyr agored ProAdventure yn gyfeillgar a phrofiadol. Maen nhw’n trosglwyddo eu hangerdd am yr awyr agored yn eu sesiynau.
www.proadventure.co.uk
WhiteWaterActive
Mae WhiteWaterActive yn cynnig llawer o brofiadau awyr agored, o rafftio dŵr gwyn i abseilio, o gaiacio i grwydro ceunentydd. Hefyd cynigir rhaglenni arbenigol o Ddatblygu Tîm ac Adloniant Corfforaethol. Mae’r rhain yn helpu busnesau i adeiladu gwaith tîm, hyrwyddo cyfathrebu, datblygu ysgogiad a chael gwared ar rwystrau sefydliadol.
Teithiau cerdded yn Llangollen
Y FFORDD ORAU I ARCHWILIO hanes cyfoethog Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy yw drwy gerdded. Mae golygfeydd trawiadol, cefn gwlad hardd a chyfoeth o fywyd gwyllt yn sicrhau teithiau cerdded cofiadwy. Lawrlwythwch arweinlyfr am ddim o’r wefan.
www.deevalleywalks.com
Safe and Sound outdoors
Mae Safe and Sound yn trefnu nifer fawr o weithgareddau yn ôl y dydd neu am sawl dydd yn ôl y gofyn Mae’r rhestr o weithgareddau maen nhw’n eu cynnig ar hyn o bryd yn cynnwys: dringo creigiau, beicio mynydd, cerdded mewn ceunentydd a phêl-baent.
www.sasoutdoors.co.uk
White water tubing UK
Mae White water tubing yn darparu teithiau Tiwbio a Rafftio o safon uchel ar gyfer pob oedran a gallu yng Ngogledd Cymru. Mae’r teithiau’n addas nid yn unig ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau hwylio’n dawel trwy rai o olygfeydd mwyaf ysblennydd y DU ond hefyd ar gyfer y rhai mwy gwallgof sy’n ysu am wefr y profiad dŵr gwyn gorau posibl!
www.whitewatertubing.co.uk
Ty Nant Outdoors Cyf
Yn arbenigo mewn Caiaco ar y Môr, Canŵio a Caiaco Dŵr Gwyn, ac yn rhedeg teithiau byr a hir i rai mannau cyfarwydd a rhai llai cyfarwydd. Mae’n gwmni antur teuluol , gyda chariad at yr awyr agored ac â’r profiad i hyfforddi unrhyw un.
www.tynantoutdoors.com