photo 1 o 5
Llangollen
ar gyfer digwyddiadau
lle mae’r dirwedd yn ysbrydoli
photo 2 o 5
photo 3 o 5
photo 4 o 5
photo 5 o 5
Yn gorwedd yng ngwlad hyfryd Bryniau Clwyd ac Ardal Harddwch Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy, mae Llangollen yn lleoliad Safle Treftadaeth y Byd ysbrydoledig ar gyfer pob math o ddigwyddiadau.

Y Lleoliad

Cynadleddau a Chyfarfodydd

Lleoliad
Yn Llangollen, rydym wedi arfer â chroesawu’r byd. Bob blwyddyn mae miloedd yn dod i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Felly gallwch ddibynnu ar arbenigedd y dref wrth drefnu digwyddiad yma.
Mae Pafiliwn byd-enwog Llangollen yn cynnig cyfleusterau ardderchog sy’n addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, dan do neu yn yr awyr agored: cyfarfodydd, cynadleddau, arddangosfeydd, cyngherddau, sioeau masnach…
Mae gwestai, tai llety a thai gwely a brecwast Llangollen yn darparu ystod eang o opsiynau ynghylch llety. Maent yn cynnig cysur, ansawdd a chroeso diguro am brisiau fforddiadwy.
Mae digon o gyfle i sicrhau bod eich digwyddiad yn arbennig iawn. Mae gwibdeithiau bythgofiadwy yn rhoi cipolwg ar dreftadaeth syfrdanol y dref. Mae Llangollen hefyd yn enwog am weithgareddau yn yr awyr agored.
Mae Llangollen yn hygyrch iawn ar gyfer cynadleddau un diwrnod a digwyddiadau sawl diwrnod. Mae’n hygyrch yn y car, trên neu awyren. Mae’r traffyrdd ond yn 30-40 munud i ffwrdd.
Beth bynnag yw eich anghenion, mae Llangollen yn cynnig profiad cofiadwy â gwerth gwych am arian.
